01.      Cefndir

01.01. Mae Ochr yr Undebau Llafur (TUS) Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y tri undeb llafur a gydnabyddir yn ffurfiol gan Gomisiwn y Cynulliad fel cyflogwr staff y Comisiwn. Y rhain yw PCS, FDA a Prospect. Caiff y mwyafrif helaeth o staff Comisiwn y Cynulliad eu cynrychioli gan y tri undeb.

01.02. Mae'r safbwyntiau yn y dystiolaeth wedi cael eu tynnu ynghyd o'r gwahanol lefelau o waith ymgynghori ar y cynllun hwn y mae'r tri undeb wedi llwyddo i'w gwblhau yn yr amser a oedd ar gael.

02.      Sylwadau cyffredinol

02.01. Mae Ochr yr Undebau Llafur yn gyffredinol falch o gael ymateb i'r ymgynghoriad ar ddrafft cynnar o'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad ac o gael ymateb nawr i'r Pwyllgor.

02.02. Rydym yn dathlu'r ffordd gydweithredol y mae Rheolwyr Comisiwn y Cynulliad yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ochr yr Undebau Llafur fel undebau i ddatblygu'r ystod eang o bolisïau ac arferion gwaith sy'n effeithio ar staff Comisiwn y Cynulliad.

02.03. Yn nes ymlaen yn y ddogfen hon, rydym yn gwneud sylwadau ar rai o'r meysydd penodol lle hoffem weld gwelliant pellach. Rydym yn ymwybodol bod rhan o'n trylwyredd wrth graffu ar y ddogfen hon, yn anochel, yn sgil y ffaith bod llawer o'n haelodau yn gweithio mewn rolau craffu ac wedi arfer â chraffu’n llawn ar unrhyw ddogfen ysgrifenedig sy'n cael ei rhoi o'u blaen. Nid ydym am ddibrisio'r budd a welwn yn y cynnydd a gafwyd drwy roi statws cyfartal i'n hieithoedd swyddogol drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad ac yn y gwelliannau at y dyfodol sydd i'w gweld yn y cynllun drafft newydd hwn.

02.04. Yn gyffredinol, rydym yn teimlo bod hwn yn bolisi call sy'n taro cydbwysedd da rhwng hyrwyddo'r Gymraeg yn ein gwaith bob dydd a bod yn deg hefyd i'r rhai hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg yn y gweithle (ac nad ydynt yn dymuno gwneud hynny). Mae'n sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu darparu i’r Aelodau (lle dymunir) a'r cyhoedd.

02.05. Fodd bynnag, hoffem weld y ddwy iaith swyddogol yn cael eu trin yn fwy cyfartal. Mae nifer o feysydd a nodir isod lle caiff y Gymraeg, ei defnydd a datblygu sgiliau staff yn yr iaith hon eu crybwyll yn benodol, ond lle na chaiff gwaith tebyg i wella gwasanaethau neu sgiliau yn Saesneg ei nodi. Os yw'r ddwy iaith swyddogol am gael eu trin yn gyfartal, hoffem weld termau cyfartal yn cael eu defnyddio drwy gydol y ddogfen.

03.      Sylwadau ar eiriad penodol yn y cynllun

03.01. Rydym yn awyddus bod y staff yn cael y cyfle i wella eu holl sgiliau yn y gweithle. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn awyddus i sicrhau y cynigir cyfleoedd i wella sgiliau yn y ddwy iaith swyddogol

Tud. 6 - 'yn gyflogwr sy’n cefnogi pob aelod o staff sydd am ddatblygu neu wella eu sgiliau yn y ddwy iaith swyddogol neu yn y naill iaith neu'r llall i safon sy’n briodol i’w swydd, neu ymhellach os dymunant'

03.02. Rydym o blaid hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog i staff newydd a phresennol fel ei gilydd. Rydym yn cwestiynu'r mentrau codi ymwybyddiaeth "parhaus" ac yn meddwl a fyddai ailadroddus neu reolaidd yn iaith gliriach.

Tud. 10 - 'codi ymwybyddiaeth o'r Cynllun a'i ofynion ymysg staff yn barhaol drwy ddarparu hyfforddiant cychwynnol i bob aelod o'r staff fel rhan o'u rhaglen gynefino, a mentrau codi ymwybyddiaeth parhaus drwy gydol y flwyddyn seneddol'

Tud. 37 - 'darparu cyfleoedd parhaus i ategu neu ddatblygu dealltwriaeth o’r Cynllun...'

03.03. Mater o gydraddoldeb iaith: rydym yn gobeithio y bydd cyfleoedd o'r fath i staff wella eu sgiliau iaith ar gael i wella yn y Gymraeg a'r Saesneg ac ar bob lefel briodol, ac yn gofyn am ymrwymiad i’r perwyl hwnnw.

Tud. 26 - 'mynediad i gymorth hyblyg wedi'i deilwra i aelodau o staff sy'n dymuno datblygu neu wella eu sgiliau iaith...'

03.04. Mae iaith "hawliau" yma yn mynd yn groes i iaith "dewis" yng ngweddill y ddogfen. Os oes gan y ddau ochr "hawl" i weithio yn yr iaith o'u dewis, ond bod y dewis yn wahanol, sut y caiff y gwrthdaro rhwng yr "hawliau" hyn ei ddatrys.

Tud 26 - 'parchu hawliau Aelodau, cydweithwyr a’r cyhoedd i ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall neu’r ddwy iaith swyddogol'

03.05. I lawer o wasanaethau â disgyblaethau arbenigol, gallai darparu "unrhyw wybodaeth newydd" yn ddwyieithog arwain at gynnydd mawr mewn cyfieithu diangen o ddogfennau hynod dechnegol ac arbenigol gyda nifer fechan iawn o ddarllenwyr o bosibl, mewn rhai achosion dim ond yr awdur ac o bosibl un arall mewn argyfwng. Rydym yn awgrymu bod iaith y pwynt hwn braidd yn gryf a bod angen ystyried o ddifrif y goblygiadau o ran adnoddau cyn ei roi ar waith.

Tud 27 – Mae unrhyw wybodaeth newydd y mae staff yn ei datblygu am eu gwasanaethau (e.e. gwybodaeth ar y fewnrwyd ac ar ffurf copi caled) yn ddwyieithog

03.06. Caiff newidiadau i opsiynau recriwtio eu croesawu. Mae'r maen prawf presennol "Cymraeg yn ddymunol" yn annymunol ac yn amwys. Ond rydym eisiau mwy o sicrwydd.

03.07. Er bod y cysyniad yn cael ei groesawu, mae pryderon hefyd wedi cael eu mynegi ynghylch y broses o roi'r newidiadau recriwtio hyn ar waith. Mewn trafodaethau cynharach ynghylch y cynllun hwn, dywedodd Ochr yr Undebau Llafur yn glir mai un o'r gofynion ynghylch gwneud y newid hwn oedd y byddai angen darparu deunyddiau ategol i reolwyr sy'n cyflogi a'r rhai sy'n gwneud cais am swyddi er mwyn egluro'r lefelau newydd cyn dechrau eu defnyddio'n llawn.

03.08. Nid ydym yn siŵr a allai dryswch godi lle mai dim ond “cwrteisi ieithyddol sylfaenol” sy’n ofynnol ac a ydym yn gofyn i ymgeiswyr gael y sgiliau cyn iddynt gael eu penodi neu’n dweud y gallant ennill y sgiliau hynny fel rhan o’r broses gynefino (tudalen 32). Mae angen inni fod yn glir a yw hyn yn rhan o asesiad y broses recriwtio. Rydym yn tybio y bydd yn gymwys i swyddi mewnol ac allanol. Rydym yn pryderu y gall unrhyw ddiffyg eglurder o’r hyn a ddisgwylir ar adeg yr asesiad achosi i geisiadau beidio â chael eu gwneud a phrofi rhinweddau, efallai drwy grŵp ffocws o amrywiaeth eang o ddarpar ymgeiswyr a bod unrhyw ddysgu yn llywio sut y caiff y polisi hwn ei weithredu (gweler y pwynt isod ynghylch yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb).

03.09. Os ydym am weithio gyda lefelau safonol o sgiliau mewn iaith, yna mae angen bod profion safonol ar gyfer y sgiliau hynny ar gael i'r rhai sy'n recriwtio er mwyn sicrhau proses deg a thryloyw. Gan ein bod yn gweithio gyda'n dwy iaith swyddogol ar y sail eu bod yn gyfartal, yna mae'n dilyn y dylai staff hefyd fod yn barod i gael asesiad o'u sgiliau yn y naill iaith/yn y ddwy iaith yn gyfartal adeg eu recriwtio.

Tud 28 – ‘Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn briodol yn ystod y broses recriwtio er mwyn sicrhau eu bod yn gyffyrddus â’r hyn sy’n ddisgwyliedig o ddeiliad y swydd.'

03.10. Mae Ochr yr Undebau Llafur wedi nodi y gallai'r lefel newydd "cwrteisi ieithyddol sylfaenol" yn Gymraeg fel gofyniad ar gyfer pob swydd gael effaith bosibl ar gyfle cyfartal y Cynulliad wrth recriwtio. Hoffem weld canlyniad yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb o'r dull gweithredu newydd hwn. Unwaith eto, efallai y bydd y risgiau yn cael eu lliniaru drwy'r ffordd y caiff y cynllun newydd hwn ei gyflwyno, ond nid yw'r ddogfen hon nac unrhyw ganllawiau ategol yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno. Serch hynny, ymddengys fod rhai o'r newidiadau yn y polisi drafft eisoes wedi'u rhoi ar waith, o leiaf yn achos rhai ymarferion recriwtio prawf.

Tud. 33 – 'O dan y fframwaith, byddai angen rhyw lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o'r Gymraeg ar gyfer pob swydd a hysbysebir, er y byddai llawer ohonynt ar y lefel isaf lle mae angen 'cwrteisi ieithyddol sylfaenol' yn unig

03.11. A ydym yn gofyn i ymgeiswyr i feithrin sgiliau cyn eu penodi, ond hefyd yn dweud y gallant ddysgu'r sgiliau hynny fel rhan o'r broses gynefino? A yw hyn yn anghyson?

Tud. 32 –

-        ‘mabwysiadu dull lle mae angen o leiaf lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg ('cwrteisi ieithyddol sylfaenol') ar gyfer pob swydd a hysbysebir a bod disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r sgiliau hynny adeg eu penodi, neu ymrwymiad i ddysgu'r sgiliau hynny fel rhan o'r broses gynefino;

-        rhoi cyngor i'r holl ymgeiswyr ar feithrin y sgiliau iaith priodol cyn eu penodi, gan gynnwys adnoddau ar-lein...'

03.12. Er ein bod yn annog staff i gyflawni'r lefel angenrheidiol ar ôl recriwtio neu drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, byddai gennym bryderon am unrhyw ddysgu sy'n ofynnol ar gyfer y gweithle y byddai disgwyl iddo gael ei wneud yn ddi-dâl neu cyn dechrau gweithio i’r Cynulliad yn ffurfiol.

03.13. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad i gefnogi staff sydd eisiau dysgu, ond hoffem wybod mwy am hyn ar gyfer y rheini sy'n rheolwyr. Mae gan bob rheolwr aelod o staff sy'n dysgu, sy'n beth da, ond nid ydym yn gwybod am y ddarpariaeth gyffredinol a gynigir gan y Comisiwn.

03.14. Mae arfer dysgu da yn nodi y dylid cytuno ar amcanion dysgu rhwng y dysgwr a'r tiwtor. Rydym yn gobeithio y bydd modd mabwysiadu'r dull hwn yn hytrach na dim ond rhoi targedau i ddysgwyr iaith.

Tud. 34 - ...bydd y tîm hefyd yn rhoi targed dysgu penodol bob blwyddyn i bob dysgwr sy'n cofrestru ar gyrsiau dan arweiniad tiwtor'

03.15. Pwynt bach am linynnau gwddf. Mae'r ddogfen yn nodi -

Tud. 36 - '...sicrhau bod staff dwyieithog yn gwisgo llinynnau gwddf 'Iaith Gwaith' neu 'Dysgwr'...'

03.16. Oni ddylai pob aelod o staff gael dewis ynghylch llinynnau gwddf yn hytrach na bod yn rhaid iddynt wisgo llinyn gwddf penodol sy'n eu gwahaniaethu? Rydym yn deall ac yn cefnogi'r cysyniad o ddarparu llinynnau gwddf ond nid felly o ran eu gwisgo.

03.17. Pwynt o ran drafftio: a yw "staff rheng flaen/front-facing staff" yn derm priodol? A ddylem ddweud "staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd/public-facing" yn lle hynny?

Tud. 24 - '...gall y cyhoedd ddisgwyl gallu sgwrsio â staff rheng flaen naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg...'

Tud. 36 - 'Dylai aelodau o staff rheng flaen sy'n siarad Cymraeg fod yn hawdd eu hadnabod'

03.18. Mae pryder hefyd nad yw'r term hwn yn cael ei ddiffinio yn y ddogfen hon, nac yn unrhyw bolisi gweithredol arall y Cynulliad. Byddai'n dda cael eglurhad ynghylch sut y caiff y categorïau rôl hyn eu diffinio a lle y dylai fod disgwyl i'r ffin orwedd.

03.19. Unwaith eto, ar sail cydraddoldeb, hoffem weld gwelliannau a chyflawniadau pob aelod o staff yn y ddwy iaith swyddogol yn cael eu cydnabod. Hoffem hefyd weld cydnabyddiaeth i'r rhai sy'n mynd ati'n fwy i ddefnyddio'r sgiliau iaith sydd ganddynt eisoes ac sydd wedi cael eu mireinio trwy fagwraeth ar aelwyd Gymraeg neu drwy fynychu ysgol Gymraeg yn hytrach na dim ond y rhai sy'n cael eu cyfrif fel "dysgwyr Cymraeg" .

Tud. 37 – ‘rhoi cyhoeddusrwydd i gyflawniadau ein dysgwyr Cymraeg drwy amrywiol gyfryngau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol’.

04.      Casgliad

 

04.01. Mae llawer o ewyllys da ymhlith staff y Cynulliad tuag at y ddwy iaith swyddogol. Maent yn cydnabod bod angen i'r Cynulliad allu darparu ystod lawn o wasanaethau yn Gymraeg a Saesneg ac yn benodol i ddarparu gwasanaethau sy'n caniatáu i holl Aelodau'r Cynulliad ac eraill sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad wneud hynny yn eu dewis iaith.

04.02. Mae ein defnydd o'r ieithoedd swyddogol wedi aeddfedu ers cyflwyno Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol cyntaf, ac mae modd clywed sut y mae'r Cynulliad wedi dod yn lle mwy dwyieithog yn y pedair blynedd diwethaf. Rydym yn credu bod lle i wella gwasanaethau fwyfwy drwy hyfforddiant a thrwy wella'r ddarpariaeth ieithyddol ar gyfer y ddwy iaith swyddogol.

04.03. Fodd bynnag, nid oes modd osgoi'r ffaith bod nifer sylweddol o staff y Cynulliad yn parhau i ddweud eu bod yn ddi-Gymraeg neu fod ganddynt "gwrteisi ieithyddol sylfaenol" yn unig, ac ni fyddem am i gyfleoedd gyrfa gael eu rhwystro'n ddiangen o ganlyniad i beidio â gallu siarad Cymraeg i lefel ddigonol.

05.      Bod yn agored a thystiolaeth lafar

05.01. Rydym yn fodlon i'r ymateb hwn gael ei gyhoeddi'n llawn. Fodd bynnag, rydym yn gyndyn i roi tystiolaeth lafar. Rwy'n siŵr y bydd y Pwyllgor yn deall, fel aelodau cyfredol o staff y Cynulliad, y gallai unigolion y byddai gofyn iddynt roi tystiolaeth gael eu rhoi mewn sefyllfa anodd pe credir eu bod yn feirniadol o'r Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad.